Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari
14 Mai
Dwy Genedl, Un Stori
Ar 14 Mai, rydym yn dathlu stori ryfeddol. Hanes cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.Mae’r stori dwymgalon hon am ddwy genedl wedi mynd tu'r hwnt i genedlaethau, gan ffurfio cymunedau, a chodi ein hysbryd yn yr amseroedd anoddaf - gan adael marc annileadwy ar bawb y cyffyrddodd â nhw ar hyd y ffordd.Felly dewch, gadewch i ni godi gwydraid i'r cyfeillgarwch a ddaeth â ni i gyd at ein gilydd. Dathlwch gyda ni ar 14 Mai!
BETH YW DIWRNOD CYFEILLGARWCH CYMRU-HWNGARI?Ar 14 Mai 2022, ymgasglodd cannoedd yn nhref Gymreig Trefaldwyn i ddathlu ein cysylltiadau diwylliannol, mewn digwyddiad hanesyddol a drefnwyd gan Gyngor Tref Trefaldwyn a Magyar Cymru, y fenter Cymru-Hwngari.I anrhydeddu gwaddol y diwrnod arbennig hwn a dathlu ein cysylltiadau diwylliannol amrywiol, cyhoeddwyd 14eg Mai yn Ddiwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.
Beth Sydd Ymlaen?
Dyma rai o’r ffyrdd y mae pobl o amgylch Cymru a Hwngari yn paratoi i ddathlu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.Byddwn yn ychwanegu mwy a mwy o weithgareddau dros yr wythnosau nesaf, felly gwyliwch y gofod!Eisiau ychwanegu eich gweithgaredd eich hun? Dywedwch fwy wrthym a byddwn yn lledaenu'r gair amdano!
Mae pob amser yn BST (amser y DU)
⬇️ Scroll within the white section to see all activities ⬇️
Cymerwch Ran!
O gynnal digwyddiad i bostio ar gyfryngau cymdeithasol, mae sawl ffordd o ddathlu cyfeillgarwch rhwng Cymru a Hwngari eleni.
METHU MEDDWL AM SYNIADAU?
1. Lawrlwythwch ein canllaw PDF am awgrymiadau/syniadau
2. Defnyddiwch ein logos a graffeg cyfryngau cymdeithasol
3. Creuwch eich ffrâm llun proffil eich hun ar gyfer Facebook
4. Peidiwch ag anghofio defnyddio'r hashnodau!Hashnodau: #OneStory #UnStori #EgyTörténet
CYFLWYNO EICH GWEITHGAREDDOes gennych chi unrhyw gynlluniau ar gyfer Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari? Efallai eich bod wedi nodi'r diwrnod yn barod? Dywedwch fwy wrthym fel y gallwn ledaenu'r gair!
OES GENNYCH CHI GWESTIWN?E-bostiwch Magyar Cymru ar [email protected], neu ewch i'r wefan Magyar Cymru i ddysgu mwy am gyfeillgarwch Cymru-Hwngari.